Negodi Gwaith y Dyfodol: Awtomatiaeth a Thechnoleg Newydd

Adroddiad gan y Labour Research Department
Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
Canfyddiadau allweddol

Mae hwn yn un o ddau adroddiad sy’n tynnu sylw at y pwysigrwydd o helpu gweithwyr i gael gafael ar sgiliau newydd ac, yn hollbwysig, sefydlu arferion da drwy negodi â chyflogwyr yn y sectorau allweddol lle rydym yn gwybod y bydd yr effaith fwyaf. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer ein cynrychiolwyr mewn gweithleoedd. Mae ar gael i chi ei ddefnyddio i gychwyn y sgyrsiau hyn â’ch cyflogwyr a chydweithwyr er mwyn cyflawni’r uchelgais o bontio cyfiawn yng Nghymru a rhoi sylw i’r newidiadau mawr sy’n wynebu gweithwyr heddiw.

Crynodeb Gweithredol

Awtomatiaeth yw’r broses lle mae peiriannau’n cymryd drosodd dasgau a oedd yn cael eu gwneud gan bobl o’r blaen. Mae wedi bod yn nodwedd eithaf cyson mewn gwaith wrth i dechnoleg ddatblygu dros y canrifoedd. Fodd bynnag, mae’r newid sy’n digwydd ar hyn o bryd, sy’n cynnwys digideiddio arloesol, deallusrwydd artiffisial, peiriannau cydgysylltiedig awtonomaidd, roboteg uwch, argraffu 3-D, nanotechnoleg, a biotechnoleg uwch, yn cael y fath effaith drawsnewidiol fel eu bod yn cael eu galw’n "bedwerydd chwyldro diwydiannol" neu Ddiwydiant 4.0.

Mae technoleg newydd eisoes yn newid natur gwaith mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol

Defnyddir technolegau newydd i ailddylunio galwedigaethau a newid cynnwys, cymeriad a chyd-destun swyddi. Mae hyn yn creu goblygiadau o ran ‘ansawdd’ gwaith, y gwerth sy’n cael ei weld ynddo, pa mor ddwys yw’r gwaith, y sgiliau a’r offer sydd eu angen i’w gyflawni, pa mor ddiogel yw’r gwaith i weithwyr a’r pŵer y mae’n ei roi i gyflogwyr o’u cymharu â gweithwyr.

Un canlyniad cadarnhaol posibl yw cyflwyno technoleg sy’n arbed gwaith ac yn rhyddhau gweithwyr oddi wrth waith llaw beichus ac yn gadael iddyn nhw fwrw ymlaen â thasgau mwy ystyrlon. Cafwyd un enghraifft o ganlyniad negyddol ym manc Barclays lle’r oedd system monitro cyfrifiadurol newydd yn tracio’r amser roedd gweithwyr yn ei dreulio wrth eu desg, ac yn cofnodi am ba hyd roedd defnyddwyr heb fod ar-lein

Mae’n fater o bwys i bob gweithiwr

Bydd y newid yn natur rolau swyddi o ganlyniad i dechnoleg yn cael effaith ar bob gweithiwr, beth bynnag yw lefel ei sgiliau. Bydd awtomatiaeth, digideiddio a deallusrwydd artiffisial yn effeithio ar swyddi ‘cyffredin’ a swyddi ‘sgiliau uwch’. Er enghraifft, mae pŵer prosesu cynyddol, meddalwedd newydd a’r defnydd o setiau data mawr eisoes yn cael effaith ar alwedigaethau proffesiynol, fel y’u gelwir, fel cyfrifwyr, cyfreithwyr, meddygon ac athrawon.

Mae’r newid yn digwydd yn gyflymach

Dros y degawd nesaf, rhagwelir y bydd y technolegau newydd hyn yn datblygu’n bellach ac yn cael eu hintegreiddio’n fwy mewn economïau ym mhob rhan o’r byd. Er ei bod yn anodd rhag-weld union natur a chyflymder y newid technolegol, ac er y bydd yn amrywio rhwng gwahanol sectorau yn yr economi, mae’r pandemig COVID-19 yn cyflymu’r broses hon. Mewn arolwg ar ran Fforwm Economaidd y Byd, “dywedodd 94 y cant o gwmnïau yn y DU eu bod yn cyflymu’r broses o ddigideiddio tasgau o ganlyniad i’r pandemig COVID-19, a dywedodd 57 y cant eu bod yn cyflymu’r broses o awtomeiddio tasgau”.

Mae technoleg newydd yn risg ac yn gyfle i weithwyr Cymru

Nid yw’n sicr eto beth fydd effaith technoleg newydd ar nifer y swyddi yng Nghymru, ac a fydd swyddi newydd yn cael eu creu, ond beth sy’n glir yw bod hwn yn fater brys a bod angen cymryd camau yn ei gylch nawr. 

Gellid colli hyd at draean o’r swyddi yng Nghymru a dadleoli nifer mawr o swyddi eraill

Mae’r felin drafod Future Advocacy wedi dod i’r casgliad y byddai awtomatiaeth yn gallu cael effaith ddinistriol ar Gymru a bod perygl i tua un o bob tair swydd ddiflannu’n llwyr erbyn y 2030au. Roedd yn rhag-weld, ar gyfer gwahanol sectorau, y gellid colli 46.4% o swyddi gweithgynhyrchu, 32.3% o swyddi cyllid a 44% o swyddi manwerthu a chyfanwerthu ymhen ychydig mwy na degawd. Bydd llai o effaith ar y sectorau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol (17%) ac addysg (8.5%). Roedd yr astudiaeth hefyd wedi dangos bod y 10 cyflogwr preifat mwyaf yng Nghymru yn rhai mewn sectorau lle’r oedd perygl mawr o golli swyddi o ganlyniad i awtomatiaeth ac mai etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy oedd yr un sy’n wynebu’r risg fwyaf yng Nghymru a’r risg bedwaredd fwyaf yn y DU.

Yn yr adroddiad Cymru 4.0, ceisiwyd edrych mewn ffordd fwy amlweddog ar yr hyn y mae technoleg newydd yn ei olygu i’r wlad. Mae’n cyd-weld ei bod yn ddigon posibl bod risg fawr i swyddi, ond bod hynny’n amrywio yn ôl y sector. Yn y sector preifat, mae “economi Cymru yn cael ei feddiannu gan fusnesau sydd wedi eu clymu i rannau ymylol cadwyni gwerth byd-eang, gyda’u pencadlys, a’u swyddogaethau ymchwil, dylunio a gwybodaeth busnes wedi eu lleoli yn rhywle arall. Mae hynny yn golygu bod y swyddogaethau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru yn tueddu i fod yn llai diogel, yn fwy cludadwy, ac yn wynebu mwy o risg o gael eu hawtomeiddio o ganlyniad i hynny.”

Ar y llaw arall, mae’n bosibl bod y ffaith bod cyfran gymharol fawr o weithlu Cymru (o’i gymharu â gweddill y DU) mewn gwasanaethau cyhoeddus yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad rhag y bygythiad o awtomatiaeth, yn y tymor byr o leiaf.  

Nid oes sicrwydd y bydd nifer mawr o swyddi newydd yn cael eu creu

Mae’r adroddiad Cymru 4.0 yn herio’r farn optimistaidd sydd gan rai y bydd technoleg newydd yn creu mwy o swyddi nag a gollir. Mae’n dweud nad oes sicrwydd y bydd swyddi newydd, o ba fath bynnag, yn cael eu creu’n awtomatig gan dechnoleg newydd. Mae’n anodd dod o hyd i dystiolaeth o’r posibilrwydd y bydd meysydd newydd yn datblygu sy’n cynnig nifer mawr o swyddi ac, yn wir, mae’n awgrymu y bydd y rhan fwyaf o’r gyflogaeth newydd yng Nghymru yn ‘swyddi amnewid’ yn y tymor byr a chanolig a hefyd yn nodi bod tuedd anffodus at greu mwy o fathau o gyflogaeth sy’n ansafonol ac o ansawdd gwael.

Cyfle i drawsnewid economi Cymru

Mae’r adroddiad Cymru 4.0 yn cyflwyno nifer o argymhellion polisi a allai sicrhau bod technoleg newydd yn llesol i economi Cymru a gweithwyr Cymru. Y nod yw helpu i droi Cymru’n ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesi digidol.

“Y cwestiwn nawr yw a yw Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid cymdeithasol allweddol yn barod i ‘ddeisyfu’r modd’ yn ogystal â ‘deisyfu’r diben’ er mwyn gwneud i arloesedd digidol ac economi’r dyfodol wirioneddol weithio i bobl Cymru.” (Cymru 4.0)

Beth all undebau ei wneud

Mae’n amlwg, os bydd y camau i gyflwyno technoleg newydd yn cael eu gadael yn llwyr i ‘resymeg y farchnad’, y bydd yn cael ei defnyddio’n bennaf gan gyflogwyr i wneud ‘arbedion effeithlonrwydd’, i leihau costau llafur, ac i ostwng safonau. Gall undebau weithredu nawr drwy wneud y canlynol:

Pwyso am fabwysiadu’r argymhellion yn Cymru 4.0

  • Manteisio ar gyfleoedd mewn partneriaethau cymdeithasol i ddylanwadu ar bolisi strategol ar dechnoleg newydd
  • Cymryd camau yn y gweithle ac ar lefel y cyflogwyr i negodi cytundebau ar dechnoleg newydd a fydd yn diogelu gweithwyr a dod â manteision iddynt.

Prin yw’r cytundebau a wnaed hyd yma ond maent yn dangos beth ellir ei ennill

Mae pob undeb yn y DU yn rhoi sylw cynyddol i dechnoleg newydd ar ei agenda er nad yw’n ymddangos, hyd yma, fod fawr ddim cydfargeinio wedi dechrau ar y mater hwn yn benodol yn y DU. Rhai eithriadau i hyn yw’r cytundebau a wnaeth CWU â Grŵp y Post Brenhinol, a’r cynnydd ar wneud cytundebau gan gynrychiolwyr Unite mewn nifer o sectorau, wedi i’r undeb bwyso ar weithwyr i ymgyrchu ar y mater hwn (gweler yr enghraifft isod).

Y tu allan i’r DU, mae rhagor o enghreifftiau o undebau’n negodi mewn perthynas â thechnoleg newydd – un o’r enghreifftiau pwysicaf yw’r cytundeb Arbeit 4.0 a wnaeth undeb trafnidiaeth yr EVG yn yr Almaen â Grŵp Deutsche-Bahn (DB AG). Fodd bynnag, prin iawn yw’r cydgytundebau a wnaed hyd yma. Y rheswm am hyn yw bod y pwnc hwn yn un sy’n datblygu o hyd a bod undebau hefyd wedi bod yn brysur yn delio â chanlyniadau’r pandemig.  

Cychwyn sgwrs ag aelodau

Gall awtomatiaeth fod yn bwnc sy’n ennyn ymateb cryf gan aelodau am ei fod yn ymwneud â phryderon am sicrwydd swyddi, newid yn natur rolau swydd a phwysau cynyddol ar y gweithlu. Er hynny, mae’n anodd dechrau ymgyrchu ynghylch awtomatiaeth heb wybod beth sy’n digwydd yn y gweithle yn barod, heb ddeall teimladau aelodau am y pwnc, a chael rhyw syniad o leiaf o’r effaith debygol ar swyddi a rolau swydd penodol yn y dyfodol.

Mae’r undebau hynny sydd wedi llwyddo i negodi cytundebau ar dechnoleg newydd un ai wedi cwblhau ymchwil helaeth, ymarferiadau myfyriol ac ymgynghoriad ag aelodau neu wedi sefydlu trefniadau bargeinio eisoes sy’n sicrhau bod yr undeb yn cael ei gynnwys mewn ymgynghori ynghylch unrhyw newidiadau arfaethedig ymhell cyn eu gweithredu.

Sicrhau llais i’r gweithiwr

Y prif nod wrth negodi ynghylch awtomatiaeth yw sicrhau na fydd camau i gyflwyno technoleg newydd yn cael eu cymryd yn unochrog gan gyflogwyr ond drwy gydgytundeb.

Ar lefel strategol, rhaid rhoi sylw i’r pryderon sydd gan weithwyr am dechnoleg newydd ar y cyd â phartneriaid cymdeithasol yn nhermau ei heffaith ar sectorau cyfan o’r economi, ar ranbarthau ac ar anghenion am sgiliau. Cafwyd cynnydd eisoes ar wneud cytundeb ar ddigideiddio yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu ar gyfer y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’r cynnydd ar y materion hyn wedi bod yn arafach yn strwythur Cyngor Datblygu’r Economi a sefydlwyd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn y sector preifat.

Ar lefel y gweithle a’r cyflogwr, mae technoleg newydd yn bwnc a all gael effaith mor fawr ar weithwyr fel ei fod yn haeddu cael ei drafod ar wahân i unrhyw drafod mewn pwyllgorau ymgynghori neu gydnegodi sydd eisoes yn bod. Mae undebau a wnaeth gytundebau ar dechnoleg newydd wedi sefydlu Cyd-weithgorau ar dechnoleg, ac ymgynghorir ag eraill drwy eu strwythurau partneriaeth.

Gosod safonau ynghylch ansawdd gwaith

Mae profiad wedi dangos yn aml iawn nad yw arloesi digidol yn arwain yn anochel at ansawdd gwaith teilwng. Wrth i dechnoleg drawsnewid galwedigaethau o bob math, dylid sicrhau drwy gydgytundeb na fydd yn cael ei defnyddio’n esgus dros ddibrisio neu ddatsgilio swyddi nac iselhau gweithwyr mewn unrhyw ffordd ac y bydd, yn hytrach, yn hyrwyddo Gwaith Teg.

Ailgyfeirio ac ailsgilio

Mewn economi sy’n trawsnewid, mae’n debygol y bydd anghenion sylweddol gan weithwyr o ran ailsgilio ac ailhyfforddi. Os oes modd, dylid delio â’r mater hwn drwy bartneriaeth gymdeithasol lle bydd cyflogwyr, undebau a llunwyr polisi yn cydweithio i helpu i ailddylunio swyddi a hybu mentrau hyfforddi. Wrth wneud hynny, dylent nodi mewn da bryd lle byddai technoleg a phrosesau newydd yn gallu arwain at golli swyddi neu at angen am ailhyfforddi. Un ffordd i gychwyn sgwrs am anghenion sgiliau’r dyfodol yng Nghymru yw drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru.

Gwell telerau ac amodau

Mae rhai wedi rhag-weld y bydd Diwydiant 4.0 yn dod ag enillion sylweddol i’r DU o ran elw ariannol a chynhyrchiant. Mae PWC wedi amcangyfrif y byddai deallusrwydd artiffisial ar ei ben ei hun yn gallu ychwanegu £232 biliwn i’r economi erbyn 2030. Amcangyfrifwyd hefyd y byddai gweithgynhyrchu doethach, wrth ddefnyddio roboteg, deallusrwydd artiffisial, y rhyngrwyd pethau diwydiannol a gweithgynhyrchu haen-ar-haen, yn gallu ychwanegu £455 biliwn pellach. Er nad oes sicrwydd y bydd technoleg newydd yn arwain yn anochel at gynhyrchiant gwell yng Nghymru, byddai cytundeb yn gallu sicrhau bod unrhyw enillion yn y dyfodol yn cael eu rhannu’n deg.

Iechyd a diogelwch

Yn ôl natur y gweithle a’r math o dechnoleg newydd sydd dan sylw, mae’n debygol y bydd nifer o faterion iechyd a diogelwch i’w cynnwys mewn unrhyw gytundeb. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ergonomeg – a yw’r peiriannau newydd yn ddiogel, symudiadau’r corff, etc.?
  • Iechyd meddwl
  • Dwysáu gwaith
  • Ynysigrwydd cymdeithasol

Mae undebau’n lobïo hefyd o blaid cyfraith ‘Hawl i Ddatgysylltu’ yn ogystal â darparu cytundebau enghreifftiol ar y mater hwn.

Diogelu data gweithwyr

Un o’r pryderon mwyaf ynghylch technoleg newydd yw bod data am weithwyr yn cael eu casglu’n annheg a bod hyn yn arwain at fwy o fonitro a gwyliadwriaeth gan gyflogwyr. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod nifer cynyddol o weithwyr sydd â’u holl symudiadau yn y gwaith yn cael eu tracio, er nad yw nifer mawr ohonynt yn gwybod bod hynny’n digwydd hyd yn oed. Gall undebau ymyrryd mewn nifer o ffyrdd i ddiogelu gweithwyr.

Gweithio o bell

Mae nifer o gynrychiolwyr a swyddogion wrthi ar hyn o bryd yn negodi polisïau a chytundebau newydd ynghylch gweithio gartref o ganlyniad i’r newidiadau mawr a gafwyd yn sgil y pandemig COVID-19. Bydd rhai o’r negodiadau hyn yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i weithwyr hefyd mewn perthynas â’r defnydd o dechnoleg.

Negodi’r dyfodol: Gwersi i’w dysgu

  • Mae’n bosibl llwyddo drwy ymyrryd
  • Mae angen gweithredu nawr
  • Braenaru’r tir ac ymgysylltu ag aelodau
  • Defnyddio grym diwydiannol
  • Cynnal deialog ar bob lefel

Crynodeb o gytundebau

Menter

Beth sydd wedi’i ennill

CWU a Grŵp y Post Brenhinol

 

Mae cytundeb fframwaith CWU â Grŵp y Post Brenhinol yn sefydlu egwyddorion ynghylch cyflwyno technoleg newydd a strwythurau lle bydd yr undeb yn gallu cymryd rhan wrth ei dylunio hyd at ei gweithredu. Y brif egwyddor yw bod technoleg i’w defnyddio i wella prosesau ac nid i ‘ddad-ddyneiddio’ gwaith mewn unrhyw ffordd. Mae’r Gweithgor Treialon Cenedlaethol gyda’r cyflogwr yn arolygu treialon technoleg newydd, ac yn cytuno ar gylch gorchwyl ar gyfer cyflwyno pob un. Yn ddiweddar, maent wedi cyflwyno peiriannau didoli parseli awtomatig a system adnoddau dynol ddigidol newydd. Mae’r cylch gorchwyl yn gwarantu pob dim rhwng diogelu swyddi rhai a gyflogir yn uniongyrchol, iechyd a diogelwch, diogelu data a lefelau staffio gofynnol. Ar lefel leol, mae negodwyr CWU wedi achub ar y cyfle wrth gyflwyno technolegau newydd i sicrhau gwell patrymau sifft ac wythnos waith fyrrach i aelodau.

Ymgyrch awtomatiaeth Unite

Ar ôl cynnal ymchwil helaeth ac ymarfer lledaenu gwybodaeth a oedd yn cynnwys gweithdai ar awtomatiaeth ym mhob un o’i 19 grŵp sector diwydiannol, mae cynrychiolwyr Unite wedi cychwyn ymgyrchoedd ynghylch technoleg newydd mewn nifer o sectorau, yn cynnwys trafnidiaeth teithwyr, gweithgynhyrchu bwyd, a moduron. Er bod y momentwm wedi arafu o ganlyniad i’r pandemig COVID-19, roedd stiwardiaid yn Rolls Royce Motors (Grŵp BMW) wedi darbwyllo rheolwyr i sefydlu Cyd-weithgor ar dechnoleg newydd a fydd yn trafod sut i ddiogelu swyddi ac unrhyw bryderon am gyfarpar newydd.

Undeb EVG a Deutsche Bahn (Yr Almaen)

Mae’r cytundeb Arbeit 4.0 rhwng undeb trafnidiaeth yr Almaen EVG a grŵp rheilffyrdd Deutsche Bahn yn un cynhwysfawr a hirdymor sy’n darparu mesurau diogelu a chymorth i weithwyr yn wyneb awtomeiddio a digideiddio cynyddol ar y rheilffyrdd. Mae’r cytundeb, a gafodd ei negodi ar ôl cynnal ymchwil sylweddol ac ymgynghoriad ag aelodau, yn pennu diffiniad o ‘waith teilwng’ ar y dechrau gan ddatgan y dylai barhau hyd yn oed pan fydd rolau swyddi’n newid wrth gyflwyno technoleg newydd. Mae’n amlinellu nifer o ffyrdd i’r undeb gydweithio â’r cyflogwr wrth ddylunio technoleg newydd, wrth edrych ar yr anghenion sgiliau ar gyfer rolau swydd penodol wrth iddynt ddatblygu, ac wrth ddylunio a darparu hyfforddiant fel na fydd yr un gweithiwr yn cael ei ‘ddatsgilio’.

Gwaith y Cynghorau Partneriaeth yng Nghymru

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn datblygu set o egwyddorion ar ddigideiddio a fydd yn hyrwyddo camau ar gyfer cynnwys, cyfranogi ac ymgynghori â staff ac undebau llafur pan gyflwynir dulliau data a digidol newydd a thechnolegau newydd. Mae hyn yn dilyn yr argymhellion mewn adroddiad gan CPG ar effaith technoleg arloesol ar weithlu’r sector cyhoeddus a bydd wedi’i seilio ar egwyddorion y Cytundeb Partneriaeth a Rheoli Newid sy’n gofyn i gyflogwyr y wladwriaeth wneud eu gorau glas i sicrhau bod cyflogaeth yn parhau pryd bynnag y gwneir newidiadau sy’n effeithio ar y gweithlu. Mae hefyd yn gofyn i gyflogwyr ymgynghori ag undebau llafur ar y cyfle priodol cyntaf a chyn gwneud unrhyw benderfyniadau na ellir eu gwrthdroi. Cafwyd cynnydd arafach yng Nghyngor Datblygu’r Economi yn y sector preifat.

Gweithio mewn partneriaeth: (Nifer o wahanol gyflogwyr)

Mae nifer o enghreifftiau da hefyd o waith mewn partneriaeth rhwng undebau a chyflogwyr i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i weithwyr wrth gyflwyno technoleg newydd. Er enghraifft, mae undeb Community a Zurich Insurance wedi cydweithio ar broses fewnol gynhwysfawr ar gyfer ailsgilio ac ailgyfeirio gweithwyr. Mewn mannau eraill, mae aelodau UNISON yng Ngrŵp Wheatley ac aelodau GMB yn un o warysau ASDA yn gallu rhoi adborth adeiladol i gyflogwyr ynghylch technoleg a gweld gwelliannau o ganlyniad.

Proses deialog gymdeithasol Singapore

Yn Singapore, mae llywodraeth, undebau a chyflogwyr wedi cydweithio mewn ‘deialog gymdeithasol’ i roi sylw i dechnoleg newydd, llunio mapiau trawsnewid diwydiannol ar gyfer gwahanol sectorau economaidd a phenderfynu strategaeth i hwyluso’r trawsnewid, yn cynnwys ailsgilio gweithwyr.

Cynghorau swyddi Sweden

Yn Sweden, model arall a ddefnyddir i ddiwallu’r angen am ailsgilio ac ailgyfeirio gweithwyr o ganlyniad i gyflwyno technoleg yw’r Cynghorau Sicrwydd Swyddi. Ariennir y rhain gan weithwyr a chyflogwyr (0.3% o gyflogres y cwmnïau a effeithir) ac maent yn gweithio fel cynllun yswiriant i weithwyr, yn cynnig cyfarwyddyd gyrfaoedd a hyfforddiant.

Cytundebau gweithio o bell

Yn y misoedd diwethaf yn y DU, mae undeb PCS yn Cyllid a Thollau EM ac undeb CWU yn Santander wedi sicrhau cytundebau gweithio o bell sydd wedi diogelu swyddi wedi i’r cyflogwyr hyn ddewis lleihau eu gweithrediadau swyddfa o ganlyniad i newid technolegol ac effaith y pandemig COVID-19.

Mwy o'r TUC