Wythnos y Cynnig Cymraeg

13 i 17 o Fai 2024 yw wythnos y Cynnig Cymraeg

Dyma gyfle i dynnu sylw at fusnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd. 

Yn ystod yr wythnos byddem yn dathlu llwyddiant sefydliadau sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg. Byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’w defnyddio, ac yn annog y cyhoedd i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn. Gobeithiwn weld mwyfwy o fusnesau ac elusennau yn defnyddio’r iaith ac yn derbyn y gydnabyddiaeth hon.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y Cynnig Cymraeg mae croeso i chi gysylltu â ni.

Llun Cynnig Cymraeg

Cynnig Cymraeg yw cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd i sefydliadau sydd wedi creu cynllun datblygu'r Gymraeg. Dyma gyfle i ddangos i'ch defnyddwyr eich bod yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn barod i'w defnyddio.  

Os oes gennych chi bolisi neu gynllun iaith yn barod, gallwn weithio gyda chi i'w datblygu ymhellach ac i ennill cydnabyddiaeth swyddogol 

94%

o siaradwyr Cymraeg rhugl yn nodi bod gwasanaeth Cymraeg o safon yn helpu cwmni i greu argraff dda.

86%

o’r boblogaeth yn ymfalchïo yn y Gymraeg.

75%

o siaradwyr Cymraeg yn credu y dylai elusennau weithredu'n ddwyieithog yng Nghymru.

Gweithiwr archfarchnad yn siarad gyda chwsmer

Cynllun Datblygu’r Gymraeg

Bwriad y Cynllun yw eich helpu i sicrhau eich bod yn datblygu eich gwasanaethau Cymraeg dros amser. Os hoffech help i greu Cynllun Datblygu'r Gymraeg, ebostiwch hybu@cyg-wlc.cymru.

Ar ôl llunio eich Cynllun Datblygu, mae’n bwysig eich bod chi yn rhoi gwybod i’ch defnyddwyr pa wasanaethau Cymraeg sydd ar gael. Gallwch dderbyn cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd wrth wneud.

Gyrrwr bws

Adnabod eich prif wasanaethau

Gall y Tîm Hybu eich helpu i adnabod o leiaf pum prif wasanaeth Cymraeg sy'n cael ei ddarparu gennych. Dyma fydd eich Cynnig Cymraeg.

Bydd Cynllun Datblygu’r Gymraeg sef eich cynllun hir dymor ar gyfer datblygu gwasanaethau yn y Gymraeg, yn sail i'r Cynnig Cymraeg.  

Gyda’n cymorth gallwch wneud cais am gydnabyddiaeth swyddogol gan y Comisiynydd a chael defnyddio’r logo arbennig.

Mae’n rhaid i’r Comisiynydd fod yn hyderus bod eich Cynnig Cymraeg yn adlewyrchu’r hyn y mae eich busnes neu elusen yn ei gynnig.

Llun o ddynes yn gweithio mewn caffi

Mae'r Tîm Hybu yma i'ch helpu pob cam o'r ffordd wrth i chi:

  • weithio gyda ni i lunio eich cynllun datblygu a'ch Cynnig Cymraeg;
  • gyflwyno cais am gydnabyddiaeth swyddogol, a chaniatâd i ddefnyddio’r logo Cynnig Cymraeg;
  • rannu eich Cynnig Cymraeg yn fewnol ac yn allanol, gan hyrwyddo, dathlu a mesur effaith.

Os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â
hybu@cyg-wlc.cymru.