10 mlynedd o wneud gwahaniaeth
Mae eleni yn nodi degawd ers i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) gael eu cyflwyno gyntaf.
Wedi’n hethol gan bobl leol, rydym yn gweithredu fel pont rhwng y cyhoedd a’r system cyfiawnder troseddol, gan ddwyn heddluoedd i gyfrif a gosod blaenoriaethau yn seiliedig ar anghenion lleol.
Rydym hefyd yn comisiynu gwasanaethau pwysig sy'n cefnogi dioddefwyr ac yn lleihau niwed.
Mae adroddiad ‘Victims In Focus’ yr APCC yn mapio’r gwaith arloesol y mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi’i roi ar waith i ddatblygu arferion sy’n cefnogi dioddefwyr, gan ddangos ein hymrwymiad a’n dull cydweithredol o fynd i’r afael â rhai o’r troseddau mwyaf niweidiol a thrawmatig.
Mae’n tynnu sylw at ein Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr, a sefydlwyd yn 2020 i chwyddo lleisiau dioddefwyr a’u cefnogi i ddylanwadu ar blismona lleol.
I ddysgu mwy am fy mlaenoriaethau presennol, cliciwch yma.
Diolch ichi unwaith yn rhagor am gymryd yr amser i ddarllen fy mwletin. Mae croeso ichi ei rannu’n ehangach, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, cewch gysylltu â’m swyddfa drwy glicio yma.
Dafydd Llywelyn
Comisiynydd Heddlu a Throseddu