DOMINYDDWYD mis Medi, wrth gwrs, gan newyddion am farwolaeth sydyn Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II.
Ar ôl teyrnasu am 70 mlynedd – cyfnod hwy nag unrhyw deyrn arall yn hanes Prydain – nid oedd unrhyw amheuaeth ynglŷn â’i hymroddiad a’i hymrwymiad. Parhaf i gydymdeimlo’n ddwys â’r Teulu Brenhinol ar yr adeg hon.
Roedd mis Medi hefyd yn garreg filltir bwysig i Heddlu Dyfed-Powys, wrth groesawu ei swyddogion dan hyfforddiant newydd. Am y tro cyntaf, bydd ganddynt y dewis i gwblhau eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae ymweld â’r cymunedau rwy’n eu gwasanaethu’n rhan bwysig o’m swydd. Yr oeddwn yn ddiolchgar o gael fy ngwahodd i siarad â grŵp Merched y Wawr Caerfyrddin ar 14 Medi, a chwrdd ag aelodau o Glwb Pobl Fyddar Llanelli a’r Cynghorwyr Suzy Curry, Andre McPherson a John Prosser ar 29 Medi.
Yr wyf wrth fy modd yn gweld sefydliadau’n cymryd ymagweddau creadigol tuag at ddatrys materion lleol. Mae Galeri VC yn Sir Benfro’n enghraifft arbennig o hyn, ac mae rhaglen pêl droed ieuenctid lleol yr uwch gynghrair yn un arall. Darllenwch mwy am y prosiectau gwych hyn isod.
Diolch ichi unwaith yn rhagor am gymryd yr amser i ddarllen fy mwletin. Mae croeso ichi ei rannu’n ehangach, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, cewch gysylltu â’m swyddfa drwy glicio yma.
Diolch yn fawr,
Dafydd Llywelyn
Comisiynydd Heddlu a Throseddu