| | | I ddarllen copi Cymraeg o e-fwletin y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, cliciwch yma. |
| To read an English version of the Police and Crime Commissioner’s e-bulletin, click here. |
|
|
|
|
|
| | Croeso i rifyn diweddaraf fy mwletin sy’n amlygu rhai o’r gweithgareddau y bûm yn ymwneud â nhw yn ystod mis Mehefin. Bu’n fis prysur unwaith eto, a’r uchafbwynt i mi, heb os, oedd ymweliad yr Angel Gyllell ag Aberystwyth am y mis. Fel y nodwyd yn fy mwletin diwethaf, dyma’r eildro i mi ddod a’r Angel i ardal Dyfed-Powys. Roedd y cerflun eiconig – a gomisiynwyd gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig ac a grëwyd gan yr artist Alfie Bradley – yn cael ei arddangos yn y dref tan 29 Mehefin 2022, ac roeddwn yn falch o allu cydnabod a diolch i’r holl bartneriaid a’n cefnogodd yn ystod y mis mewn seremoni gloi ar ddiwedd y mis. Gallwch ddarllen mwy am ymweliad yr Angel Gyllell ag Aberystwyth isod. Digwyddiadau allweddol eraill i mi yn ystod mis Mehefin oedd; Adroddiad HMICFRS sy’n cadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gwella ym mron pob agwedd ar gofnodi troseddau dros y deuddeg mis diwethaf; Digwyddiad agored ar gyfer rhanddeiliaid lleol yn Nafen, Llanelli ar safle adeiladu’r Ddalfa a’r Hwb Plismona newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin; Lansio ymgyrch recriwtio ar gyfer fy Fforwm Ieuenctid ac Ymgynghoriad gyda phobl ifanc; Treulio amser yn cysgodi gwaith rhai o fy Ymwelwyr Annibynnol â'r Ddalfa yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr.
Gallwch ddarllen am yr uchod i gyd isod a thrwy ddilyn y dolenni. Diolch unwaith eto am gymryd amser i ddarllen fy mwletin. Mae croeso i chi rannu'n ehangach, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â'm Swyddfa. Diolch yn fawr, Dafydd Llywelyn Comisiynydd Heddlu a Throsedd | | | Dathlu effaith gadarnhaol ymgyrch Gwrth-drais yn Aberystwyth yn ystod Seremoni Gloi Angel CyllyllAr ddydd Mercher 29 Mehefin 2022, daeth cynrychiolwyr cymunedol, partneriaid lleol a’r awdurdodau ynghyd i ddathlu effaith ymweliad yr Angel Cyllell ag Aberystwyth yn ystod mis Mehefin, mewn seremoni gloi a gynhaliwyd yng Nghanolfan Arad Goch. Gan weithio ochr yn ochr â Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion sicrheais fod yr Angel Gyllell yn dod i sgwâr Llys y Brenin, Aberystwyth ar ddechrau mis Mehefin, lle mae wedi bod yn sefyll dros bedair wythnos fel atgof corfforol o effeithiau trais, ac ymddygiad ymosodol. Mae negeseuon allweddol ynghylch atal, gwrth-drais a gwrth-ymosodedd wedi’u rhannu â’r gymuned leol yn ystod y mis drwy raglen o weithdai addysgiadol ac ymwybyddiaeth amrywiol a gynhaliwyd gan fy Swyddfa, Heddlu Dyfed-Powys a sefydliadau ac elusennau lleol. Mae’r Angel Gyllell yn ein hatgoffa o effaith ddinistriol troseddau cyllyll, ac unrhyw ffurf ar drais ac ymddygiad ymosodol ar deuluoedd a chymunedau. Mae’r adborth wedi bod yn wych, ac roedd yn wych gallu cydnabod a diolch i’r holl bartneriaid sydd wedi ein cefnogi yn ystod y mis yn y seremoni gloi, a chyflwyno tystysgrif i bob un ohonynt. | | | Adroddiad Arolygiaeth yn cydnabod gwelliannau a wnaed gan Heddlu Dyfed-PowysYn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch o ddarllen adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) sy’n cadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gwella ym mron pob agwedd ar gofnodi troseddau dros y deuddeg mis diwethaf. Ym mis Mai 2021, cyhoeddodd HMICFRS achos o bryder i'r Heddlu a gwnaeth dri argymhelliad brys. Ailymwelodd HMICFRS â Heddlu Dyfed-Powys yn 2022 a chanfod bod yr heddlu wedi gwneud cynnydd da yn erbyn yr argymhellion hyn. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi sicrhau bod craffu trylwyr a digonol yn digwydd, ac mae’n hynod braf bod y gwelliannau a wnaed gan Heddlu Dyfed-Powys wedi’u cydnabod gan HMICFRS, sydd wedi arwain at ryddhau yr achos sy’n peri pryder. Mae'n bwysig nodi bod rhai gwelliannau i'w gwneud o hyd, fodd bynnag, mae'r Heddlu yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Edrychaf ymlaen yn awr at weithio’n agos gyda’r Prif Swyddogion i sicrhau bod gennym wasanaeth plismona effeithiol ac effeithlon sy’n ymateb i anghenion a disgwyliadau ein cymunedau, a’n bod yn canolbwyntio ar roi dioddefwyr wrth galon Heddlu Dyfed-Powys. | | | | Croesawu Cynrychiolwyr Cymunedol Lleol Llanelli i Safle Adeiladu Hwb Plismona a Dalfa newydd Sir GaerfyrddinAr 24 Mehefin cynhaliais ddigwyddiad agored ar gyfer rhanddeiliaid lleol yn Ndalfa a Hwb Plismona newydd Dyfed-Powys, sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn Nafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd caniatâd cynllunio i ni gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn ôl ym mis Ebrill 2021 ar gyfer y datblygiad arfaethedig, sydd i fod yn adeiladwaith cynaliadwy uchelgeisiol, gyda sgôr rhagoriaeth BREEAM. Mae Wilmott Dixon, sef y Contractwr Adeiladu, wedi bod ar y safle ers yr hydref yn paratoi ar gyfer y camau adeiladu cyntaf, gyda chynnydd penodol yn cael ei wneud ar y datblygiad, y bwriedir ei gwblhau erbyn mis Mai 2023. Mae hwn yn fuddsoddiad mawr i ni a fydd yn gweld canolfan blismona a dalfa uchelgeisiol, modern, cynaliadwy sy’n addas i’r diben a fydd yn bodloni anghenion a disgwyliadau plismona modern. Yn ystod y broses ceisiadau cynllunio rhwng 2020 a 2021, buom yn ymgysylltu’n eang â’r gymuned leol, ac roedd yn bleser agor y drws, a chroesawu cynrychiolwyr y gymuned leol i’r safle adeiladu i ddangos y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma.
| | | | Annog Pobl Ifanc i ddweud eu dweud ar faterion plismona, ac i ddod yn aelodau o Fforwm Ieuenctid Dyfed-PowysYm mis Mehefin lansiais ymgyrch recriwtio i recriwtio aelodau ychwanegol i fy Fforwm Ieuenctid. Rwy’n awyddus i recriwtio pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed o Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys, i ymuno â’m Fforwm Ieuenctid i sicrhau bod gennyf o leiaf un aelod o bob un o’r 14 ardal Tîm Plismona Bro yn Nyfed-Powys. Sefydlwyd y Fforwm yn wreiddiol yn 2018, ac rwyf am adeiladu ar waith llwyddiannus y Fforwm hyd yma, er mwyn sicrhau bod gan Dyfed-Powys Fforwm o Lysgenhadon Ieuenctid sy’n barod i ddylanwadu a herio’r penderfyniadau a wneir, er mwyn sicrhau bod gan gymunedau Dyfed-Powys Heddlu sy'n diogelu plant a phobl ifanc yn llwyddiannus ac yn hybu eu lles. Fel rhan o’r ymgyrch recriwtio, rwyf wedi lansio arolwg ieuenctid i ddeall yn well amgyffrediad pobl ifanc o blismona yn eu hardal. Bydd canfyddiadau'r arolwg yn helpu i adnabod tri maes blaenoriaeth i'r Fforwm Ieuenctid ganolbwyntio arnynt ar gyfer 2022/23. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 9fed o Awst. Gellir lawrlwytho'r holl wybodaeth a dolenni o'n gwefan. | | | | Cyfarfod ag Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn Nalfa Aberystwyth fel rhan o wythnos gwirfoddolwyrRhwng y 1af a’r 7fed o Fehefin roedd hi’n wythnos genedlaethol Gwirfoddolwyr, ac yn ystod yr wythnos, fe wnes i gwrdd â rhai o’m gwirfoddolwyr yn Aberystwyth, sy’n gwirfoddoli fel Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa. Gwirfoddolwyr o’r gymuned leol yw Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa (ICVs) sy’n ymweld â dalfeydd yr heddlu mewn parau, yn ddirybudd, i wirio lles carcharorion ac i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal. Yna mae'r gwirfoddolwyr yn adrodd am unrhyw faterion, os o gwbl, trwy adroddiad i fy Swyddfa, ac edrychir ar y rhain er mwyn gwneud gwelliannau. Roeddwn yn falch o’r cyfle i gwrdd â nhw i’w cysgodi am ymweliad dalfa yng Ngorsaf Heddlu Aberystwyth. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa am y gwaith gwych y maent yn ei wneud i helpu i sicrhau bod carcharorion yn cael eu trin yn deg, a bod ein dalfeydd yma yn Nyfed-Powys yn cynnig amgylchedd diogel i bawb. Roedd yn galonogol gweld bod popeth mewn trefn ac fel y dylai fod yn nalfa Aberystwyth, ac na nodwyd unrhyw faterion. Yn ogystal â grwpiau gwirfoddolwyr yr Ymwelwyr Annibynnol â'r Ddalfa, rwyf ar hyn o bryd yn cynnal tri chynllun gwirfoddoli arall, sy'n cynnwys, yr ymwelwyr Lles Anifeiliaid, Panel Sicrhau Ansawdd, a'r Fforwm Ieuenctid gyda Llysgenhadon Ieuenctid. | | | | |
|
|
|