Croeso i rifyn diweddaraf fy mwletin sy’n amlygu rhai o’r gweithgareddau y bûm yn ymwneud â nhw yn ystod mis Ebrill.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rwyf wedi bod yn ffodus i allu mynd allan i gymunedau ar draws ardal yr Heddlu i ymgysylltu â thrigolion, partneriaid a chynrychiolwyr cymunedol, a doedd mis Ebrill ddim yn eithriad.
Roedd fy Niwrnod Ymgysylltu Cymunedol yng Ngheredigion yn ystod y mis, yn dilyn Diwrnod Ymgysylltu Cymunedol gwych a gefais yn Llanelli ddiwedd mis Mawrth. Yn ystod fy niwrnod yn Llanelli cyfarfûm â Chlerc Cyngor Gwledig Llanelli i glywed am brosiect Hwb Llwynhendy, cyn ymweld â Chapel Siloah yn Seaside i drafod cynlluniau i adnewyddu’r Capel yn gyfleuster cymunedol a fydd â phwyslais arbennig ar blant a phobl ifanc.
Roedd fy Niwrnod Ymgysylltu Cymunedol Ceredigion yn Aberystwyth cyfarfûm â nifer o bartneriaid allweddol, darparwyr gwasanaethau, ac aelodau o’r cyhoedd, a gallwch ddarllen amdanynt isod.
Braf oedd bod allan yn Aberystwyth, a byddaf yn dychwelyd i’r dref ar sawl achlysur yn ystod mis Mehefin eleni, pan fyddwn yn croesawu’r Angel Cyllell / Knife Angel yn ôl i ardal yr Heddlu, sef cerflun trawiadol iawn wedi’i wneud o dros 100,000 o gyllyll.