Dathlu 15 mlwyddiant rhaglen PL Kicks yr Uwch-Gynghrair
Fis diwethaf cefais gyfle i fod yn rhan o ddathliad 15 mlynedd rhaglen Kicks yr Uwch Gynghrair, gyda’r Uwch Gynghrair yn arddangos yr effaith y mae’r fenter yn ei chael ar gymunedau lleol trwy gyfres o fideos a ryddhawyd yn ystod yr wythnos hon.
I ddathlu’r fenter, cefais wahoddiad i gymryd rhan yn y fideo hyrwyddo gyda’r gynghrair, lle cyflwynais gerdyn ‘Local Legend’ o’r Uwch Gynghrair i Harri o Seaside, Llanelli.
Nod rhaglen PL Kicks yw defnyddio pêl-droed a chwaraeon yn gyffredinol i ysbrydoli plant a phobl ifanc, a dod â chymunedau at ei gilydd.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi comisiynu Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe i gynnal sesiynau rhad ac am ddim mewn dwy ardal o fewn ardal yr Heddlu, yn Seaside Llanelli, a Doc Penfro, gyda channoedd o blant a phobl ifanc yn mynychu bob wythnos.
Yn dilyn eu llwyddiant yn y ddwy ardal, ym mis Medi 2021, estynnais y rhaglen am dair blynedd arall yn Seaside Llanelli a Doc Penfro o dan gytundeb newydd, a chyflwynais hefyd i blant a phobl ifanc mewn tair ardal newydd, sef Aberystwyth, y Drenewydd, a Chaerfyrddin.
Roedd yn wych bod yn rhan o’r dathliadau, a hoffwn longyfarch yr Uwch Gynghrair ar lwyddiant eu menter Kicks a’r effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen yn ei chael ar gymunedau.