Neges Nadolig CHTh
Wrth i ni agosáu at gyfnod yr Ŵyl, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddymuno Nadolig llawen, iach a heddychlon i chi gyd, a dymuno’n dda i chi ar gyfer 2023.
Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn heriol arall i lawer ohonom, ac rwy’n boenus ymwybodol o’r pwysau y mae’r argyfwng costau byw yn ei roi ar bobl ledled ardal Dyfed-Powys. Yn anffodus, mae’r heriau hyn a’r costau cynyddol yn taro’r gwasanaethau brys hefyd, ac er gwaethaf cynllunio ariannol gofalus gan yr heddlu, bydd yn rhaid inni wneud penderfyniadau cynyddol anodd dros y blynyddoedd nesaf, ond fy mlaenoriaeth yw sicrhau y gallwn barhau i redeg gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon a fydd yn parhau i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Ar nodyn hapusach, un o’r prif uchafbwyntiau i mi eleni oedd bod allan yn ein cymunedau yn ymgysylltu â phobl leol. Braf oedd gweld Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn dychwelyd eleni yn dilyn pandemig y coronafeirws, a hefyd croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Dregaron yng Ngheredigion ym mis Awst. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau mawr, sy’n denu miloedd o bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt, ac rydw i wedi bod mor ffodus i gwrdd â chymaint o bobl sy’n gwneud pethau gwych o amgylch Dyfed-Powys i helpu a chefnogi eraill trwy gydol y flwyddyn. Rwyf wedi fy mendithio drwy fy swydd i deimlo cryfder ysbryd cymunedol sy’n gwneud Dyfed-Powys yn le diogel yr ydym oll wedi dod i’w werthfawrogi a’i ddisgwyl.
Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n Swyddogion Heddlu, Staff a’n holl wirfoddolwyr, am eu holl waith caled dros y flwyddyn ddiwethaf i’n cadw’n ddiogel ac yn enwedig y rhai sy’n gweithio dros gyfnod prysur y Nadolig.
Mae tymor yr Ŵyl yn amser i fyfyrio, i ddiolch ac i anfon negeseuon ewyllys da at eraill, a byddwn yn gofyn yn garedig i chi oedi am funud, I feddwl am bawb sydd wedi chwarae rhan mor hanfodol wrth wasanaethu ein cymunedau dros y 12 mis diwethaf. Mae eu hymdrechion yn ein galluogi i fwynhau amser gyda'n teuluoedd a'n ffrindiau gan wybod eu bod yno i'n cadw'n ddiogel.
Yn olaf, hoffwn ddymuno Nadolig diogel a heddychlon i chi gyd. Rwy’n edrych ymlaen at fynd allan eto’r flwyddyn nesaf, ac yn gobeithio cwrdd â chymaint o bobl â phosibl, dim ond trwy wrando ac ymgysylltu â chi y gallaf wneud fy swydd yn effeithiol. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r Heddlu, asiantaethau partner a’r cyhoedd i gadw Dyfed-Powys ymhlith y lleoedd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.