Roedd y mis diwethaf unwaith eto, yn un prysur i mi fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, gyda sawl gweithgaredd allweddol yn digwydd trwy gydol y mis. Roedd yn anrhydedd imi gael fy ngwahodd gan Gymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu i'w Uwchgynhadledd flynyddol yn Llundain i siarad ar y dull arloesol a gymerwyd gennym y llynedd i ariannu prosiectau diogelwch cymunedol drwy’r fenter Cyllidebu Cyfranogol.
Mae'r broses yn un ddemocratiaeth gyfranogol, lle mae pobl leol yn penderfynu sut i ddyrannu rhan o gyllideb gyhoeddus, a'r llynedd ymrwymais £140,000 i'r fenter yn Dyfed-Powys, gyda 111 o grwpiau cymunedol ledled Dyfed-Powys yn elwa o'r cyllid. Yn ystod mis Tachwedd, cefais gyfle i ymweld â grwpiau cymunedol yn Hwlffordd a dderbyniodd arian trwy'r fenter hon - gallwch ddarllen amdanynt yma.
Yr hyn sy'n amlwg trwy'r adborth yr wyf yn ei gael ar y fenter yw bod tystiolaeth ein bod yn creu cysylltiadau a rhwydweithiau ar draws ardal yr Heddlu er mwyn sicrhau cymunedau iachach a mwy diogel. Roedd hi’n fraint cael rhannu llwyddiant y fenter yn yr Uwchgynhadledd yn Llundain gyda chydweithwyr o bob rhan o Gymru a Lloegr.
Wrth edrych ymlaen at fis Rhagfyr, a thymor yr ŵyl, sydd bob amser yn gyfnod prysur i bawb, mae yna lawer o gerrig milltir allweddol, a’r mwyaf arwyddocaol fydd cyhoeddi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd sy'n nodi'r blaenoriaethau Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer 2021-2025. Rwy'n eich annog i gadw llygad am y cyhoeddiad yn ddiweddarach y mis hwn ar ein sianeli cymdeithasol a'n gwefan, a chysylltwch â'm Swyddfa os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Diolch am ddarllen y bwletin, ac mae croeso i chi rannu'n ehangach gyda chydweithwyr a ffrindiau.
Diolch,
Dafydd Llywelyn
Comisiynydd Heddlu a Throsedd