Croeso i rifyn diweddaraf fy mwletin sy’n tynnu sylw at rai o’r gweithgareddau y bum i a’r Swyddfa yn ymwneud â nhw yn ystod mis Awst.
Wedi’r holl weithgareddau ymgysylltu prysur yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf, braf oedd ymweld â Thregaron yng Ngheredigion i fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol a oedd yn cael ei chynnal yn y dref o 30 Gorffennaf tan 6 Awst. Bu staff o fy Swyddfa yn brysur drwy gydol yr wythnos, yn ymgysylltu â’r cyhoedd, ac yn hyrwyddo ein harolwg cyhoeddus a’n harolwg ieuenctid.
Yn ystod yr wythnos, cyfarfûm hefyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrh. Robert Buckland i drafod materion plismona, a chyhoeddi partneriaeth newydd rhwng yr Heddlu a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu’r cyfleoedd i recriwtiaid newydd sy’n siarad Cymraeg ymgymryd â chymaint o’r hyfforddiant yn y Gymraeg â phosibl. Gallwch ddarllen mwy am y datblygiad cyffrous hwn isod.
Roeddwn hefyd yn westai ar raglen Pawb a’i Farn ar S4C a recordiwyd o faes yr Eisteddfod yn Nhregaron, lle buom yn trafod yr heriau sy’n wynebu cymunedau gwledig Cymru. Bu’n wythnos wych, a hoffwn longyfarch y trefnwyr am ŵyl lwyddiannus iawn.