Cyllid gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau yn Nyfed-Powys sy’n darparu cymorth i’r rhai y mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn effeithio arnynt
Ym mis Hydref 2021, agorodd Llywodraeth Cymru gynllun grant gwerth £200,000 ar gyfer unigolion a sefydliadau ledled Cymru sy’n cynnal gweithgareddau gyda’r rhai y mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) wedi effeithio arnynt.
Roeddwn yn falch o weld bod pedwar sefydliad yma yn ardal Dyfed-Powys wedi llwyddo i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod niweidio ymennydd datblygol plant ac arwain at newidiadau yn y ffordd y maent yn ymateb i straen. Gall niweidio eu systemau imiwnedd mor ddifrifol nes bod yr effeithiau'n ymddangos ddegawdau'n ddiweddarach. Gall ACEs hefyd achosi afiechyd cronig, a salwch meddwl, ac maent wrth wraidd y rhan fwyaf o drais.
Rwy’n hynod falch felly o weld y pedwar sefydliad hyn yn arwain y ffordd yma yn Nyfed-Powys o ran ceisio cefnogi unigolion a theuluoedd drwy gyflwyno gweithgareddau a fydd yn anelu at wella iechyd meddwl a chorfforol, ac annog ein cymunedau i adeiladu eu cryfder a’u cefnogaeth ar y cyd a’i gilydd.
I ddarllen mwy am yr ymgeiswyr llwyddiannus, cliciwch yma.
Ers gwneud y cyhoeddiad am ymgeiswyr llwyddiannus am grant, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod rhagor o arian ar gael, ac yn gwahodd ceisiadau pellach.
Nod y cynllun grant yw hybu mentrau sy’n cefnogi unigolion sy’n cael eu magu, neu’n byw mewn cartrefi, lle mae cam-drin domestig neu gamddefnyddio sylweddau, yn ogystal â’r rhai sy’n darparu cymorth ymarferol i deuluoedd i’w helpu i ymdrin â materion fel cyllid teulu, neu rianta i wella gwytnwch.
Mae’r cynllun grant yn gwahodd ceisiadau ar draws tair ffrwd wahanol:
Sefydliadau sy'n cefnogi merched o gefndiroedd hiliol ac ethnig lleiafrifol.
Sefydliadau sy'n cefnogi menywod ag anghenion niwro-amrywiaeth
Sefydliadau sy’n cefnogi menywod a phlant sydd wedi profi cam-drin domestig neu rywiol/trais
Mae’r broses ymgeisio’n cael ei gweinyddu gan ein cydweithwyr yn Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.