Copy
Logo

Croeso i rifyn diweddaraf fy mwletin sy’n amlygu rhai o’r gweithgareddau y bûm yn ymwneud â nhw yn ystod mis Mai.

Bu’n fis prysur unwaith eto, gyda sawl gweithgaredd allweddol yn digwydd, gan gynnwys dau gyfarfod o’r Bwrdd Plismona, lle rwy’n dwyn y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis i gyfrif; cyfarfod o’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol yr wyf yn Gadeirydd arno, yn ogystal â chyfarfod cyntaf Bwrdd Partneriaeth Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Trais yn erbyn Menywod, i enwi dim ond ychydig o’r uchafbwyntiau.

Cefais gyfle hefyd i gwrdd â Grŵp Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i drafod pryderon yr oeddent am eu codi ynghylch cyswllt â’r heddlu. Mae adrodd i 101 a 999 yn parhau i fod yn faes busnes heriol i heddluoedd, ac ym mis Mai, lansiodd Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu arolwg enedlaethol ar Gyswllt yr Heddlu, sy’n gofyn i’r cyhoedd am eu barn ar eu profiadau o’r gwasanaethau 101 a 999, yn ogystal â dewisiadau ar gyfer dulliau cyswllt yn y dyfodol. Mae manylion yr arolwg i’w gweld isod, a byddwn yn eich annog i gymryd ychydig funudau i gwblhau’r arolwg fel y gallwn sicrhau ein bod yn adnabod unrhyw faterion y mae angen mynd i’r afael â hwy ar lefel leol.

Wrth edrych ymlaen at fis Mehefin, rwy'n hynod falch o groesawu'r cerflun Angel Gyllell yn ôl i ardal yr Heddlu. Bydd y cerflun eiconig - sy'n hyrwyddo negeseuon gwrth-drais ac ymddygiad ymosodol allweddol - yn Aberystwyth trwy gydol mis Mehefin. Gallwch ddarllen popeth am ei ymweliad a’r gweithgareddau sydd wedi’u hamserlennu isod, ac edrychaf ymlaen at rannu rhai o’i gyflawniadau allweddol gyda chi fis nesaf.

Diolch unwaith eto am gymryd amser i ddarllen fy mwletin. Mae croeso i chi rannu'n ehangach, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â'm Swyddfa.

Diolch yn fawr,

Dafydd Llywelyn

Comisiynydd Heddlu a Throsedd

Aberystwyth i groesawu’r Angel Gyllell

Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion i ddod â’r Angel Gyllell yn ôl i ardal yr Heddlu, ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd y cerflun yn dod i sgwâr Llys y Brenin, Aberystwyth ym mis Mehefin lle bydd yn sefyll am bedair wythnos fel atgof corfforol o effeithiau trais ac ymddygiad ymosodol.

Bydd y cerflun eiconig - a gomisiynwyd gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig ac a grëwyd gan yr artist Alfie Bradley - yn cael ei arddangos yn y dref tan 29 Mehefin 2022.

Dyma fydd yr eildro i’r Angel Gyllell ymweld a ardal Heddlu Dyfed Powys, gyda’i ymweliad cyntaf yn y Drenewydd, Powys ym mis Ionawr 2020.

Gobeithiaf y bydd yr Angel Gyllell yn ein cynorthwyo’n fawr i godi ymwybyddiaeth feirniadol o droseddau cyllyll tra’n creu anoddefiad eang i ymddygiad treisgar yn ein cymunedau.

Darllen mwy

Holi pobl am eu barn ar wasanaethau 101 a 999

Gofynnir i drigolion ardal Dyfed-Powys gymryd ychydig funudau i ddweud wrth benaethiaid yr heddlu am eu profiadau o’r gwasanaethau 101 a 999, yn ogystal â’u hoffterau o ddulliau cyswllt yn y dyfodol.

Agorodd Arolwg Cyswllt yr Heddlu ar 16 Mai, ac mae’n rhedeg tan hanner nos ddydd Sul, Mehefin 26.

Bydd yr arolwg, sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, yn helpu i hysbysu heddluoedd, y Swyddfa Gartref a chomisiynwyr lleol am unrhyw heriau sy’n ymwneud ag adrodd i’r heddlu a chynorthwyo i lunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae adrodd i 101 a 999 yn parhau i fod yn faes busnes heriol i heddluoedd. Rhaid deall anghenion y rhai sy'n cysylltu ac mae'n rhaid i heddluoedd flaenoriaethu'r rhai sydd â'r angen mwyaf, sy'n golygu weithiau nad ymatebir i gyswllt am eitemau arferol mor gyflym ag y byddai pobl yn dymuno.

Yn ogystal, mae technoleg newydd a ddefnyddir gan rai heddluoedd yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol i gyflymu ymatebion ac agor llinellau cyfathrebu â phobl nad ydynt efallai'n gyfforddus yn defnyddio dulliau traddodiadol. Fel llais y cyhoedd mewn plismona, mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn awyddus iawn i ddeall barn eu hetholwyr ar y materion hyn yn well a byddant yn annog cymaint o bobl â phosibl i ymateb i’r arolwg.

Gellir cwblhau'r arolwg trwy glicio ar y ddolen isod.

Cwblhau Arolwg

Cyfiawnder yng Nghymru – Heddiw ac yn y Dyfodol Datganiad gan bedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru

Fel pedwar o Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru, rydym yn croesawu cyhoeddiad dogfen sylweddol gan Lywodraeth Cymru sy'n dangos ymrwymiad i bwysigrwydd cyfiawnder yng Nghymru a dealltwriaeth ohono. Mae cyswllt anorfod rhwng gwaith Plismona a'r System Cyfiawnder Troseddol ag ystod o gyfrifoldebau datganoledig ac rydym wedi dangos mantais cydweithredu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Credwn mai datganoli Plismona a Chyfiawnder Troseddol, a Chyfiawnder Sifil yn ogystal, yw'r cam rhesymegol nesaf yn y daith i ddatganoli mewn ymateb i'r amser a'r ystyriaeth sydd wedi cyfrannu at ddogfen.

Rydym yn croesawu cyhoeddi dogfen Llywodraeth Cymru ar Gyfiawnder yng Nghymru fel y cam cyntaf i symud heibio'r ddadl wleidyddol, rydym bellach yn rhannu ein barn o ran y trafodaethau ymarferol a manwl y bydd angen i bawb gyfrannu atynt.

Darllen Datganiad Llawn

Buddsoddiad o £93m i gynlluniau Ad-daliad Cymunedol dros y 3 mlynedd nesaf.

Yn gynharach y mis hwn croesewais y newyddion am fuddsoddiad cenedlaethol yn y Cynllun Ad-daliad Cymunedol, gan y cyhoeddwyd bod y Llywodraeth am fuddsoddi £93 miliwn yn y cynllun dros y tair blynedd nesaf, er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth i tua 8 miliwn o oriau’r flwyddyn.

Mae’r Cynllun Ad-daliad Cymunedol yn ddedfryd gan y llys sy'n gofyn i bobl wneud rhwng 40 a 300 awr o waith er budd cymunedau lleol. Pennir nifer yr oriau i'w cwblhau gan y Llys a gelwir cyflawni'r gwaith hwnnw'n gynllun Ad-daliad Cymunedol (CP).

Ar hyn o bryd mae ardal Dyfed-Powys yn cwblhau 950 awr yr wythnos ar gyfartaledd yn y gymuned drwy’r Cynllun.

Mae prosiectau CP yn yr ardal wedi bod yn digwydd yn ddiweddar ym Mharc Dinefwr Llandeilo, Ysgol Gatholig y Santes Fair Llanelli, Ysgol Llwyn yr Eos Aberystwyth, Cyngor Astudiaethau Maes Penfro, Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, prosiect Gwlyptiroedd y Drenewydd a Help the Homeless yn Llanfair-ym-Muallt.

Gall y cynllun helpu i ailgysylltu troseddwyr â chymdeithas. Drwy helpu i wella’r amgylchedd y maent yn byw ynddo, maent yn fwy tebygol o werthfawrogi’r hyn sydd o’u cwmpas ac yn llai tebygol o gyflawni mân droseddau fel fandaliaeth o ganlyniad.

Mae’n ad-daliad i’r gymuned, am droseddau yn erbyn y gymuned, a chroesawaf y newyddion diweddar am fuddsoddiad pellach yn y Cynllun dros y tair blynedd nesaf.

Darllen Mwy






This email was sent to <<Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Dyfed-Powys OPCC · Police Headquarters, Llangunnor · Carmarthen, SA31 2PF · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp