Roedd mis Hydref unwaith eto, yn fis prysur gyda nifer o weithgareddau yn digwydd, a datblygiadau sylweddol yn cael eu gwneud ar fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd yn benodol.
Yn gynharach eleni lansiais ymgynghoriad cyhoeddus yn gofyn am farn preswylwyr a busnesau ar flaenoriaethau plismona ar gyfer y Cynllun Heddlu a Throsedd newydd. Ar ôl ystyried yr holl ymatebion a gawsom, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda staff o fy Swyddfa dros y misoedd diwethaf i ddatblygu Cynllun Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer 2021-2025. Mae copi o'r drafft ar gael i'w weld ar fy ngwefan yma, ac rwy'n ymgynghori eto â'r cyhoedd, gan annog preswylwyr a busnesau i roi adborth trwy arolwg.
Mae cyllid yr heddlu hefyd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn, wrth imi geisio sefydlu’r gyllideb ar gyfer plismona lleol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023 tra byddaf yn aros am setliad Grant Heddlu’r Llywodraeth.
Rwy’n annog cymunedau ardal Dyfed-Powys i leisio eich barn i sicrhau y gall Heddlu Dyfed-Powys barhau i ddiogelu ein cymunedau gyda’r gwasanaeth o’r safon uchaf.
Darllenwch fwy am yr ymgynghoriad yma.
Diolch,
Dafydd Llywelyn
Comisiynydd Heddlu a Throsedd