Cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Ym mis Gorffennaf ymunais ag ymgyrch genedlaethol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (YGG) a chadw pobl yn Nyfed-Powys yn ddiogel.
Yn rhedeg rhwng 18 a 22 Gorffennaf, nodau Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022 oedd annog cymunedau i sefyll yn erbyn YGG a thynnu sylw at y camau gweithredu y gall y rhai sy’n ei brofi.
Wedi’i threfnu gan Resolve, prif sefydliad ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol y DU, roedd yr wythnos yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ledled y DU yn cynnwys Cynghorau, Heddluoedd, Cymdeithasau Tai, elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon.
Canfu ymchwil diweddar gan YouGov a gomisiynwyd gan Resolve fod mwy na hanner y bobl (56%) yn credu bod ‘angen gwneud mwy’ i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu cymuned. Fodd bynnag, ar ôl iddynt weld neu brofi ymddygiad gwrthgymdeithasol, dywedodd cyfran debyg o'r cyhoedd (57%) nad oeddent wedi rhoi gwybod i neb amdano.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn falch o fod y cyntaf yng Nghymru i dderbyn yr ‘Adduned YGG’ gydag ASB Help sy’n dangos ein hymrwymiad i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a rhoi cyfle i ddioddefwyr ofyn am adolygiad.
Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith aruthrol ar ei ddioddefwyr ac, mewn rhai achosion, ar y gymuned ehangach. Yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, rwyf wedi tynnu sylw at atal niwed a achosir gan droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel blaenoriaeth.
Mae ymateb effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gofyn am arloesi, partneriaeth gref rhwng asiantaethau lleol, a meddylfryd sy'n rhoi dioddefwyr yn gyntaf.
Roedd fy nghynhadledd Gŵyl Dewi flynyddol yn gynharach eleni yn taflu goleuni ar yr her bwysig sy’n ein hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda mewnbwn ar ddull Dyfed-Powys o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a oedd yn cynnwys sut mae’r heddlu’n dal, yn cofnodi ac yn rheoli achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol, rôl y cydlynwyr a'r cyfryngwyr, a'r ymyriadau lefel isel a'r dulliau adferol.
Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda chydweithwyr o Heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn bresennol i ddysgu mwy am ddull Dyfed-Powys o fynd i’r afael ag YGG.
Achubais ar y cyfle unwaith eto ar ddechrau wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, i annog aelodau'r cyhoedd i beidio â dioddef yn dawel os ydynt yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir rhoi gwybod am ddigwyddiadau i'r tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn Cynghorau lleol, neu i'r Heddlu os yw pobl yn teimlo eu bod mewn perygl uniongyrchol.