Wrth inni agosáu at ddiwedd y flwyddyn, mae'n anodd credu fy mod yn ysgrifennu neges Nadolig arall tra ein bod yn dal yng nghanol COVID-19. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol arall i lawer ohonom gyda'r pandemig yn parhau i gyflwyno heriau newydd.
Gwelwyd ffocws ar nifer o faterion plismona pwysig a gwasanaethau hanfodol yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys; gwella gwasanaethau i ddioddefwyr troseddau; dull cydweithredol Cenedlaethol yma yng Nghymru i fynd i'r afael â throseddau gwledig; parhau i ddarparu cefnogaeth i bobl bregus o fewn ein cymunedau; camau penodol tuag at datblygu’n sefydliad eco-gyfeillgar, a chyllido cynlluniau a darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a phrosiectau cymunedol.
Roedd hi’n fraint gallu mynd nol allan i ymweld â nifer o bobl yn ein cymunedau yn ystod misoedd yr Hydref yn dilyn y cyfyngiadau yn gynharach yn y flwyddyn, ac i weld drosof fy hun sut mae cyllid a ddarperir gan fy swyddfa yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu parhau i ymgysylltu allan yn y gymuned yn ystod 2022.
Yn gynharach yn y mis, cyhoeddais fy Nghynllun Heddlu a Throsedd 2021-2025, yn dilyn ymgynghoriad â phartneriaid a'r cyhoedd. Trwy'r Cynllun hwn, rwyf wedi gosod cyfeiriad strategol a nodi blaenoriaethau i’r Llu. Yn hanfodol, mae hwn yn gynllun deinamig, a fydd yn esblygu ac yn addasu i'r heriau dros y blynyddoedd i ddod, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau plismona a chyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn berthnasol ac addas.
Rwyf hefyd yn falch o groesawu Dr Richard Lewis yn ôl i'r Heddlu fel y Prif Gwnstabl newydd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Dr Lewis a'r uwch swyddogion i sicrhau bod yr Heddlu'n cyflawni'r blaenoriaethau a nodir yn fy Nghynllun, a bod gennym wasanaeth plismona sy'n diwallu anghenion a disgwyliadau ein cymunedau amrywiol.
Heb os, bydd 2022 yn dod â’i heriau i bob un ohonom, ond rwy’n gwbl hyderus y byddwn, gyda’n gilydd, yn goresgyn y rhain gyda gwytnwch, angerdd a brwdfrydedd.
Hoffwn ddymuno Nadolig a Blwyddyn Newydd heddychlon, iach a diogel i chi i gyd.
Dafydd Llywelyn
Comisiynydd Heddlu a Throsedd