Neidio i'r prif gynnwy

Sut y mae'r ddeddf Rhentu Cartrefi newydd yn ei gwneud hi'n haws rhentu cartref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Ddeddf Rhentu Cartrefi yn:

  • cynnig mesurau amddiffyn gwell i denantiaid a thrwyddedeion (a elwir yn ddeiliaid contract o dan y Ddeddf)
  • diffinio hawliau a chyfrifoldebau clir ar gyfer deiliaid contract a landlordiaid

Contract meddiannaeth

Bydd eich landlord yn rhoi contract meddiannaeth i chi.

Ceir 2 fath o gontract meddiannaeth, sef:

  • Contract diogel: defnyddir hwn yn lle'r tenantiaethau diogel a roddwyd gan awdurdodau lleol a'r tenantiaethau sicr a roddwyd gan gymdeithasau tai sy’n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • Contract safonol: dyma sy’n cael ei ddefnyddio yn y sector rhentu preifat yn bennaf. Gall hefyd gael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o dan rai amgylchiadau (e.e. contract safonol â chymorth ar gyfer llety â chymorth) 

Bydd angen cofnodi eich contract meddiannaeth â'ch landlord ar ffurf datganiad ysgrifenedig. Mae’r datganiad ysgrifenedig yn cymryd lle eich cytundeb tenantiaeth neu eich cytundeb trwyddedu. Rhaid iddo gynnwys holl delerau'r contract. Dyma’r gwahanol fathau o delerau:

  • Materion allweddol: er enghraifft, enwau'r landlord a deiliad y contract a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract.
  • Telerau Sylfaenol: mae'r rhain yn trafod yr agweddau pwysicaf ar y contract, gan gynnwys sut gall y landlord gymryd meddiant o'r eiddo a rhwymedigaethau'r landlord mewn perthynas â gwneud gwaith atgyweirio
  • Telerau Atodol: mae'r rhain yn ymwneud â'r materion mwy ymarferol, bob dydd sy'n berthnasol i'r contract meddiannaeth. Er enghraifft, y gofyniad i roi gwybod i'r landlord os bydd yr eiddo yn cael ei adael yn wag am gyfnod o 4 wythnos neu ragor.
  • Telerau Ychwanegol: mae'r rhain yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion eraill y cytunwyd arnynt yn benodol, er enghraifft, teler sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes

Gellir cyflwyno contractau ar ffurf papur neu’n electronig (os bydd deiliad y contract yn cytuno i dderbyn copi electronig). Mae'n arfer da llofnodi'r contract, gan fod hynny'n cadarnhau eich bod yn fodlon â’r cynnwys.

Ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi

Rhaid i landlordiaid sicrhau bod eiddo yn ddiogel i bobl fyw ynddo. Er enghraifft, drwy osod larymau tân a synwyryddion carbon monocsid sy'n gweithio a chynnal profion diogelwch trydanol. Ni fydd angen i ddeiliad y contract dalu rhent ar gyfer unrhyw gyfnod pan nad yw'r eiddo yn ffit i bobl fyw ynddi. Dylech godi unrhyw bryderon gyda'ch landlord yn y lle cyntaf, a pharhau i dalu rhent. Os oes anghydfod, mater i'r Llys yn y pen draw yw penderfynu a yw eich landlord wedi cydymffurfio â'r rhwymedigaeth ffitrwydd, ac efallai y bydd yn ofynnol i chi dalu unrhyw rent sy'n ddyledus. 

Cyfnodau rhybudd

Mae rhagor o sicrwydd i bobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat o dan y gyfraith newydd

  • ar yr amod nad ydych yn torri un o delerau'r contract, rhaid i'ch landlord roi o leiaf 6 mis o rybudd i chi (hysbysiad adran 173 yn y Ddeddf) i ddod â'r contract i ben, a elwir yn aml yn hysbysiad i droi allan heb fai (sydd wedi cynyddu o ddau fis o rybudd)
  • ni ellir cyflwyno hysbysiadau i droi allan heb fai tan 6 mis ar ôl i chi symud i fyw yn yr eiddo (sef y dyddiad meddiannu a welir yn y contract)
  • os nad yw eich landlord wedi gweithredu yn unol â’r hysbysiad i droi allan heb fai (hynny yw heb ei ddefnyddio i geisio cael meddiant o’r eiddo) ni allant gyflwyno hysbysiad arall am 6 mis.
  • os oes gennych gontract cyfnod penodol (sy’n nodi hyd y contract), ni all eich landlord fel arfer gyflwyno hysbysiad i ddod â'ch contract i ben. Os na fyddwch yn gadael, bydd y contract cyfnod penodol fel arfer yn dod yn gontract safonol cyfnodol ar ddiwedd y cyfnod penodol, a bydd rhaid i'ch landlord gyflwyno hysbysiad o 6 mis i droi allan heb fai i ddod â’r contract hwnnw i ben.
  • ni chaiff landlord gynnwys cymal terfynu (er mwyn adennill meddiant) mewn contract safonol â chyfnod penodol o lai na 2 flynedd. Os yw'r cyfnod penodol yn 2 flynedd neu’n hirach, ni all eich landlord roi rhybudd i chi tan o leiaf mis 18 yn y contract cyfnod penodol, a bydd yn rhaid iddo roi o leiaf 6 mis o rybudd i chi.

Mesurau i amddiffyn tenantiaid rhag cael eu troi allan er mwyn dial

Os yw eich landlord yn rhoi hysbysiad i droi allan heb fai i chi dim ond am eich bod wedi cwyno bod eich cartref mewn cyflwr gwael, ni fydd yn rhaid i'r Llys roi meddiant i'r landlord. Gallwch felly ofyn am waith atgyweirio heb boeni y byddwch yn colli eich cartref.

Cyd-gontractau

Gellir ychwanegu deiliaid contract i gontractau meddiannaeth neu eu dileu ohonynt heb orfod dod ag un contract i ben a dechrau contract arall. Bydd hyn hefyd yn gwneud y gwaith o reoli cyd-gontract yn haws ac yn helpu pobl sy'n dioddef cam-drin domestig drwy ei gwneud yn bosibl i droi’r sawl sy'n cam-drin allan o'r cartref.

Gwell hawliau olynu

Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i bennu person (‘olynydd’) â ‘blaenoriaeth’ ac ‘wrth gefn’ i etifeddu'r contract meddiannaeth os yw deiliad y contract yn marw. Drwy hyn, gellir sicrhau y caiff y contract ei etifeddu gan olynydd ddwywaith yn olynol, er enghraifft, gan ŵr neu wraig, ac yna gan aelod arall o'r teulu. Mae hefyd hawl olynu newydd i ofalwyr.

Y Weithdrefn ar gyfer eiddo gadawedig

Caiff landlordiaid adennill meddiant o eiddo gadawedig heb orfod cael gorchymyn llys ar ôl cyflwyno hysbysiad rhybuddio 4 wythnos a chynnal ymchwiliadau i fod yn sicr bod yr eiddo yn adawedig.

Llety â chymorth

Os byddwch yn byw mewn llety â chymorth am fwy na 6 mis, cewch hawl i gael contract safonol â chymorth. Bydd y contract safonol â chymorth yn gweithio mewn ffordd debyg i'r contract safonol ond gellir ei derfynu drwy hysbysiad o 2 fis i droi allan heb fai. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd eich landlord hefyd yn cynnwys telerau yn y contract sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • y gallu i newid lle mae deiliad y contract yn byw o fewn yr adeilad;
  • gallu'r landlord i wahardd deiliad y contract o'r annedd dros dro am gyfnod hyd at 48 awr, hyd at deirgwaith o fewn 6 mis.

Os ydych yn rhentu eich eiddo gan landlord cymunedol (er enghraifft awdurdod lleol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig) yna bydd eich rhent yn dal i gynyddu yn unol â'r Polisi Rhent Cymdeithasol, fel y'i pennir gan Lywodraeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch contract neu'ch cartref, dylech gysylltu â'ch landlord yn gyntaf. Fodd bynnag, os na allwch ddatrys y mater, efallai yr hoffech ofyn am gymorth gan Shelter Cymru neu Cyngor ar Bopeth.

Mae’n bosibl hefyd y byddai'n ddefnyddiol i chi ddarllen y ddogfen ganllaw Yr hyn mae Rhentu Cartrefi yn ei olygu i Landlordiaid a'r dogfennau cwestiynau cyffredin ar gyfer tenantiaid a landlordiaid sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am bynciau fel cyfnodau rhybudd ar gyfer troi allan.