Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Eich plentyn yn y coleg a'r 6ed dosbarth

Bydd eich plentyn yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros ei hun, ei waith a'i gynlluniau. Ond bydd eich cefnogaeth yn dal yn bwysig wrth iddyn nhw benderfynu beth i'w wneud nesaf.

Dewisiadau a phenderfyniadau

Bydd eich plentyn yn setlo i arferion newydd ac yn addasu i ffyrdd newydd o ddysgu. Mae disgwyl i hyn gymryd ychydig o amser.

Gallai rhai cyrsiau gynnwys elfen o brofiad gwaith.

O ran eu cam nesaf, mae'n dda cofio bod mwy nag un llwybr i yrfa lwyddiannus. Mae bod yn ymwybodol o opsiynau a chyfleoedd yn bwysig.

Ar ôl eu cwrs, gallai'ch plentyn fod yn ystyried:

Os yw’ch plentyn yn ystyried prifysgol, gall ddechrau paratoi y cais yn nhymor y gwanwyn ym mlwyddyn 12.

Mae llawer i ddysgu am bob un o'r opsiynau hyn. Bydd ein llwybrau gyrfa yn helpu gyda hyn.

Ffyrdd rydym ni’n cefnogi eich plentyn

Ein nod yw cefnogi cam nesaf eich plentyn i ddysgu neu i’r gwaith. Gall hyn fod drwy sesiwn grŵp neu drafodaeth unigol gyda chynghorydd. Gall eich plentyn ofyn am gymorth drwy siarad â'i Bennaeth Chweched Dosbarth neu Gwasanaethau Myfyrwyr.

Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr sydd mewn perygl o beidio â chwblhau eu cwrs.

Os bydd eich plentyn yn penderfynu gadael addysg, bydd cymorth ar gael trwy Cymru'n Gweithio.

Amser i Siarad

Yn ystod eu cwrs mae'n dda dod o hyd i’r hyn mae eich plentyn yn ei fwynhau. Archwiliwch eu cynlluniau am yr hyn yr hoffent wneud nesaf a lle maent yn gobeithio y gallai hynny arwain.

Anogwch eich plentyn i rannu unrhyw bryderon gyda chi a staff yr ysgol neu'r coleg. Bydd athrawon, tiwtoriaid, dysgwyr neu wasanaethau myfyrwyr yn barod i helpu.

Os ydy'ch plentyn yn teimlo nad yw'r cwrs y mae nhw'n ei astudio yn addas iddyn nhw, mae gan ein tudalen Aros. Paid rhoi'r gorau iddi gyngor ac arweiniad iddyn nhw. Gallant hefyd gysylltu â ni i drafod eu sefyllfa. Gallwn ddarparu cymorth diduedd, personol.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.