Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Y pandemig wedi gwaethygu’n sylweddol yr amseroedd aros am wasanaethau orthopedig sydd eisoes yn hir

02 Mawrth 2023
  • Mae angen cymryd camau cynaliadwy ac ar fyrder i fynd i’r afael â’r amseroedd aros hir a’r effaith andwyol y mae’r rhain yn ei chael ar iechyd corfforol a llesiant meddyliol cleifion.

    Er bod ymrwymiad clir i wella amseroedd aros, gallai gymryd tair blynedd neu fwy i restrau aros am wasanaethau orthopedig ddychwelyd i’r lefelau a fodolai cyn y pandemig.

    Mae orthopedeg yn gangen o feddygaeth sy’n arbenigo yn y system gyhyrysgerbydol – esgyrn, cymalau, ligamentau, tendonau a chyhyrau. Cyn y pandemig, roedd nifer y bobl ar y rhestr aros am wasanaethau orthopedig ymhlith un o’r heriau mwyaf roedd GIG Cymru yn ei hwynebu. Hyd yn oed gydag arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu atebion cynaliadwy, nid oedd gwasanaethau orthopedig erioed wedi cyrraedd targedau cenedlaethol ar gyfer amseroedd aros.

    Mae effaith COVID-19 ond wedi gwaethygu’r sefyllfa ar gyfer gwasanaethau orthopedig yn sylweddol. Ers i effaith y pandemig leihau, mae gwasanaethau orthopedig wedi cymryd amser i ailddechrau ac mae nifer y bobl sy’n aros wedi cynyddu 56% o fis Mawrth 2020. Erbyn hyn, mae mwy na hanner ohonynt yn aros mwy na’r targed o 26 wythnos, ac mae ychydig dros draean ohonynt yn aros mwy na blwyddyn.

    Er nad yw problemau orthopedig a chyhyrysgerbydol, ynddynt eu hunain, yn peryglu bywyd, gall amseroedd aros hir gael effaith fawr ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl, sydd iddynt oblygiadau ehangach ar y GIG yng Nghymru. Mae ein gwaith modelu diwygiedig yn dangos y gallai gymryd tair blynedd neu fwy i’r rhestrau aros ddychwelyd i’r lefelau a fodolai cyn y pandemig. Fodd bynnag, bydd hynny’n gofyn am ymdrech sylweddol ar atal yn y gymuned, a chynnydd mewn lefelau gweithgarwch a chapasiti y tu hwnt i'r rhai a oedd ar waith cyn y pandemig.

    Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn deall maint yr her sy’n eu hwynebu, ac mae ymrwymiad clir i wella a thrawsnewid gwasanaethau orthopedig. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy o waith er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy ar gyfer y tymor hirach. Mae angen rhoi pwyslais newydd ar effeithiolrwydd i wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau a chanolbwyntio ar y system gyfan i sbarduno gwelliant go iawn, er y gallai gymryd amser i gyflawni hyn.

    Mae ein hadroddiad yn amlinellu nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd, y mae rhai ohonynt yn canolbwyntio ar y canlynol:

    • Paratoi cynllun cyflawni cenedlaethol clir
    • Canolbwyntio’n sylweddol ac yn barhaus ar wella effeithiolrwydd a chynhyrchiant ym maes orthopedig
    • Rhoi trefniadau ar waith i fonitro’r bobl sy’n aros, gan gyfathrebu â nhw, a darparu cymorth a chyngor iddynt yn ôl yr angen
    ,
    Mae sicrhau triniaeth amserol i bobl gyda phroblemau orthopedig wedi bod yn her i’r GIG yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, gyda COVID-19 yn gwaethygu’r sefyllfa’n sylweddol. Mae’n gadarnhaol gweld bod ymrwymiad clir i wella gwasanaethau orthopedig, ond mae angen cymryd camau gweithredu ar fyrder er mwyn sicrhau gwelliannau i amseroedd aros yn y tymor byr, er mwyn lleihau pa mor hir y mae pobl yn aros mewn poen ac anghysur, yn ogystal â chreu mwy o welliannau cynaliadwy yn y tymor hirach. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Sylwi

    Drwy gydol y datganiad hwn i’r wasg a’n hadroddiad, rydym yn sôn am gleifion sy’n aros am driniaeth. Mae ein ffigurau’n seiliedig ar fesur ‘agored’ GIG Cymru o ran atgyfeirio i driniaeth. Mae’r mesur yn cyfrif nifer y llwybrau sydd wedi dechrau ond heb gwblhau triniaeth eto, yn hytrach na phobl. Mae pob llwybr yn cynrychioli claf sy’n aros ond gall fod gan gleifion fwy nag un cyflwr iechyd ac felly maent ar y rhestr aros fwy nag unwaith. O ganlyniad, bydd cyfanswm nifer y bobl sy’n aros am driniaeth yn is na chyfanswm nifer y llwybrau.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Gwasanaethau Orthopedig yng Nghymru – Mynd i’r Afael ag Ôl-groniad y Rhestr Aros

    View more